Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae’r cynghorion isod wedi’u seilio ar ganllawiau CG142 NICE: Autism in adults: diagnosis and management: [http://www.nice.org.uk/guidance/cg142]

Cyfathrebu

Ddechrau’r asesu, rhaid esbonio’r broses i’r claf yn ogystal â dangos sut y daw’r canlyniadau ato, gan roi pob ystyriaeth i’w anghenion a’i allu i’ch deall.  Lle bo’n briodol, gallech chi fanteisio ar bresenoldeb perthnasau, cynhalwyr ac ati i esbonio’r broses a helpu’r claf trwyddi.

Cael gafael ar wybodaeth am ei hanes

Lle bo’n bosibl ac yn briodol, dylech chi wahodd un o’r teulu – rhiant, cynhaliwr ac ati – yn ogystal â’r claf.

Lle bo modd, dylech chi gael gafael ar ddogfennau megis hen adroddiadau’r ysgol yn dystiolaeth o’i ymddygiad a’i ddatblygiad.

Canolbwynt asesu diagnostig

Dylech chi ymholi am y canlynol ac asesu’r atebion:

  • arwyddion a nodweddion craidd awtistiaeth (megis anawsterau cymdeithasu/cyfathrebu, ymddygiad ystrydebol, gwrthwynebu newid ac ychydig iawn o ddiddordebau) sydd yno ers plentyndod;
  • hanes o’i ddatblygiad cynnar lle bo ar gael;
  • problemau ymddygiadol;
  • gweithredu yn y cartref, yn yr ysgol neu yn y gwaith;
  • hanes o anhwylderau’r corff a’r meddwl;
  • anhwylderau niwroddatblygiadol eraill;
  • cryfderau/gwendidau’r synhwyrau a manwl gywirdeb.

Yn ystod asesu cynhwysfawr, rhaid ystyried ac asesu hyn oll, ynghyd ag unrhyw gyflyrau neu anhwylderau eraill sydd gan y claf, cyn dod i ddiagnosis.

Dylech chi chwilio am arwyddion a nodweddion awtistiaeth lle bo modd, yn arbennig mewn sefyllfa gymdeithasol.

Peidiwch â defnyddio profion biolegol, genetig na niwrolegol i bennu a oes anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd gan rywun.

 O nodi unrhyw o’r peryglon uchod, rhaid paratoi cynllun rheoli risgiau.

Dulliau diagnostig

Gall dull o’r fath fod yn ddefnyddiol, yn arbennig mewn achos cymhleth, er nad yw’n orfodol.

Dulliau diagnostig i oedolion nad oes anabledd dysgu arnynt:

Asesiad Asperger i Oedolion (gan gynnwys Cyniferydd y Sbectrwm Awtistaidd a Chyniferydd Cydymdeimlad) (yn rhad ac am ddim)

www.autismresearchcentre.com/arc_tests

Cyfweliad Diagnostig Awtistaidd – diwygiedig (£)

 

Atodlen Arsylwi Diagnostig Awtistaidd – cyffredinol (£)

 

Cyfweliad Diagnostig Syndrom Asperger (ynghyd ag awtistiaeth ddwys) (yn rhad ac am ddim)

 

Graddfa Ddiagnostig Ritvo (Awtistiaeth/Asperger) – diwygiedig (yn rhad ac am ddim)

 

Dulliau diagnostig i oedolion ac arnynt anabledd dysgu:

  • ADOS-G
  • ADI-R

I drefnu proses asesu achos mwy cymhleth, dylech chi ystyried defnyddio dull asesu ffurfiol megis Cyfweliad Diagnostig Anhwylderau Cymdeithasol a Chyfathrebu, Atodlen Arsylwi Diagnostig Awtistaidd neu Gyfweliad Diagnostig Awtistaidd.

http://www.autism.org.uk/disco

 Cymhlethdod ac anghytuno diagnostig

Dylech chi ystyried gofyn am farn meddyg arall (gan gynnwys tîm arbenigol arall ym maes awtistiaeth) os nad ydych chi’n siŵr am y diagnosis neu os oes unrhyw o’r canlynol ar ôl asesu diagnostig:

  • anghytuno am y diagnosis ymhlith aelodau’r tîm dros awtistiaeth;
  • anghytuno â’r teulu, y cymar, y cynhalwyr neu’r eiriolwr am y diagnosis;
  • dim digon o fedrau a galluoedd yn y fro i allu adnabod oedolyn a chanddo awtistiaeth;
  • mae gan y claf gyflwr cymhleth arall megis anabledd dysgu difrifol, problem ddifrifol o ran ei ymddygiad, ei olwg, ei glyw neu ei allu i symud neu anhwylder meddyliol difrifol.

Dadlwythiadau

AWTISTIAETH: Adnabod yr arwyddion
Poster arwyddion awtistiaeth – Plant rhwng 2 a 4½ oed)
Poster arwyddion awtistiaeth – Plant a chyfnod cynnar glasoed
Poster arwyddion awtistiaeth – Oedolion a chyfnod diweddar glasoed
Cynllunio ar gyfer asesu anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd
ICD-10 Diagnostic categories
DSM5 Diagnostic Criteria
RC Psych_Diagnostic Interview Guide for the Assessment of Adults with ASD